Rydym wrthi'n diweddaru'r wefan hon ar ôl i ni orfod cau oherwydd Covid yn 2021/22.
Rhufeiniaid, Normaniaid, porthmyn, emynwyr – ac ambell ddihiryn: maen nhw i gyd yn perthyn i dref farchnad Llanymddyfri.
Dyma dref Williams Pantycelyn, y Ficer Prichard a gwasg enwog y Tonn. Mae hefyd yn gysylltiedig â Meddygon Myddfai, Twm Siôn Cati, Llywelyn ap Gruffydd Fychan a Dafydd Jones o Gaio.
Nid yw’n syndod, felly, fod Llanymddyfri wedi chwarae rhan allweddol yn hanes Cymru.
Tymor 2023
Bydd ein criw cyfeillgar o wirfoddolwyr yn Y Gannwyll i roi croeso cynnes i chi o ddydd Mawrth tan ddydd Sadwrn rhwng 11.00 a.m a 2.00 p.m.
Mae Cymdeithas Hanes Teuluoedd Dyfed yn ymuno â ni bob dydd Mercher a Gwener.
Phorth Ymwelwyr
Amgueddfa Llanymddyfri
a Phorth Ymwelwyr
Y Gannwyll
Ffordd Y Brenin
Llanymddyfri
Sir Gaerfyrddin
SA20 0AW
Ddydd Mawrth tan ddydd Sadwrn rhwng 11.00 a.m a 2.00 p.m.